Rhwydwaith ydi TYA Cymru i gefnogi cwmnïau cynhyrchu, oedfannau ac artistiaid y mae’n amcan ganddyn nhw ddatblygu a chynhyrchu theatr a pherfformio i gynulleidfaoedd ifainc. Mae’n rhwydwaith sy’n cydnabod pwysigrwydd theatr a pherfformio i bobol ifainc.
Corff Cymru gyfan ydi TYA Cymru a down at ein gilydd i gefnogi, i lobïo ac i rannu gwybodaeth i ddatblygu a chryfhau’r sector TYA yng Nghymru. Mae TYA Cymru yn ystyried mai plant a phobol ifanc 0-18 oed ydi ‘cynulleidfaoedd ifainc’.
I’r diben yma, ar ran aelodau TYA Cymru, carem ofyn i chi am wybodaeth am eich strategaeth eich hun o ran theatr a pherfformio i gynulleidfaoedd ifainc. Byddai’n dda gennym dynnu llun gwell o’r sefyllfa ar hyn o bryd drwy hyd a lled Cymru. Byddai’n dda gennym ddeall yn well be gyflawnodd oedfannau yng Nghymru, eu llwyddiannau a’u helbulon, wrth raglennu’r gwaith yma. Byddai’n dda gennym hefyd ddeall yn well y berthynas sydd gennych â’r plant yn eich cyffiniau, pa un ai drwy eu teuluoedd, ysgolion, grwpiau cymuned neu’n unigolion.
