1. Croeso i'n harolwg

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd oddeutu 5 munud i'w gwblhau. 
 
Cyflwyniad
Mae’r arolwg hwn yn rhan o adolygiad sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd i sut mae gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi bod yn gweithio yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19.
 
Bydd yr adolygiad hwn yn helpu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall mwy am yr hyn a weithiodd yn dda dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac ym mha feysydd y gellid bod wedi gwella'r gwasanaethau. Bydd hefyd yn ffordd o roi gwybod i Lywodraeth Cymru am beth sy'n bwysig i bobl sy'n cael mynediad i ofal cymdeithasol, yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd.
 
Hoffem glywed gennych os oes gennych brofiad personol o gael mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig, os ydych yn ofalwr neu os oes aelod agos o'ch teulu wedi cael mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol. Byddai profiad o bob un neu unrhyw un o wasanaeth gofal cymdeithasol yn werthfawr iawn. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
  • pobl hŷn
  • cymorth iechyd meddwl
  • pobl ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol
  • camddefnyddio alcohol a sylweddau
  • atal camdriniaeth neu esgeulustod
  • anghenion sy'n ymwneud â thai
  • cam-drin domestig
  • cymorth i deuluoedd
  • amddiffyn plant
  • lleoli plant, maethu a mabwysiadu
  • troseddwyr ifanc

Mae’r arolwg yn ddienw, ac ni fyddwn yn olrhain ymatebion i unigolion. Os hoffech gael y cyfle i gymryd rhan mewn rhannau pellach o’r adolygiad, gallwch ddarparu eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg. Byddwn ond yn cysylltu â chi ynglŷn â'r prosiect hwn ac ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt â thrydydd partïon.
 
ADSS Cymru, sydd yn cynnal yr arolwg gyda chefnogaeth Practice Solutions Ltd.
Prosesu data:

Cesglir y data hwn gan Practice Solutions Ltd i gefnogi adroddiad ADSS Cymru. Byddwn yn rhannu eich ymatebion dienw i'r arolwg hwn fel rhan o'r broses gofnodi. Yn unol â Rheoliad Cyffredinol yr UE ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 1998, ni fydd y data personol a gesglir yn cael ei rannu gyda, na’i ddarparu i unrhyw drydydd parti arall at ddibenion marchnata neu unrhyw ddibenion eraill.

Question Title

Pa fath o wasanaeth gofal cymdeithasol y derbynioch chi, neu'r unigolyn yr ydych yn cwblhau'r arolwg hwn ar ei ran, yn ystod y pandemig? Gallwch dicio cymaint o flychau ag sy'n berthnasol i chi.

Question Title

A oes gennych unrhyw adborth cadarnhaol am y gwasanaethau a dderbyniwyd? Beth aeth yn dda?

Question Title

A oedd unrhyw beth yr hoffech y byddai wedi mynd yn wahanol?  Sut gallai'r gwasanaethau fod wedi gwella?

Question Title

Beth oedd eich barn am wasanaethau gofal cymdeithasol cyn y pandemig?

Gwael iawn Niwtral Gwych
Clear
i We adjusted the number you entered based on the slider’s scale.

Question Title

Beth yw eich barn am wasanaethau gofal cymdeithasol erbyn hyn?

Gwael iawn Niwtral Gwych
Clear
i We adjusted the number you entered based on the slider’s scale.

Question Title

A fyddai'n bosib i ni gysylltu â chi i drafod eich profiadau ymhellach ar gyfer yr adroddiad? (Sylwer, byddwch yn parhau i fod yn ddienw yn yr adroddiad.)

Question Title

Os mai 'byddai' oedd eich ateb, nodwch eich enw a'ch cyfeiriad e-bost isod.

T