Cyflwyniad

Ydych chi, neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt, wedi bod yn yr ysbyty (fel claf mewnol) yng Nghymru yn 2018 neu 2019?
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech dreulio ychydig funudau i gwblhau’r arolwg profiadau cleifion hwn.
Os ydych chi, neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt, wedi bod yn glaf mewnol fwy nag unwaith, meddyliwch am eich profiad yn gyffredinol.

Bydd yr arolwg hwn yn hysbysu adroddiad, a gomisiynwyd gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru, fydd yn ein helpu i ddeall mwy am brofiadau cleifion.


Lefelau Staffio Diogel o Nyrsys mewn ysbytai
Yn ôl y gyfraith, mae rhaid i Fyrddau Iechyd ddarparu digon o nyrsys i ganiatáu amser i ofalu am gleifion mewn modd sensitif.
Bydd y ddeddf hon yn gwarchod cleifion, er enghraifft trwy fyrhau arosiadau cleifion mewnol trwy leihau achosion o faglu, llithro a chwympo; lleihau heintiadau a doluriau; a lleihau marwolaethau.
Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar wefan y Royal College of Nursing.
https://www.rcn.org.uk/about-us/policy-briefings/nurse-staffing-levels-wales-act

Mae’r arolwg hwn yn un cwbl gyfrinachol.

Diolch yn fawr

T