Promenâd Penmaenmawr

Beth yw hyn?
Mae Cyngor Tref Penmaenmawr yn y broses o ddatblygu 'gweledigaeth' ar gyfer dyfodol  Promenâd Penmaenmawr.  I wneud hyn, mae angen inni gael gwybod sut mae pobl yn defnyddio’r promenâd, beth fyddai'n annog pobl i’w ddefnyddio’n amlach a pha syniadau sydd gan bobl i’w wella ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr o bob oed. 

Beth wnewch chi gyda'r wybodaeth rwy'n ei darparu?
Bydd yr wybodaeth a ddarparwch yn cael ei defnyddio i lunio cynllun, sy'n dangos sut y gellid gwella’r promenâd, yn seiliedig ar syniadau pawb a mewnbwn gan beirianwyr dylunio.  Defnyddir y cynllun i wneud cais am arian o ffynonellau amrywiol, i ychwanegu at y cronfeydd sydd eisoes wedi’u codi drwy'r Archebiant, a cheisio gwneud y weledigaeth ar gyfer y promenâd yn realiti.     

Pam mae angen fy syniadau arnoch chi?
Mae’r holiadur ymgynghorol hwn yn rhan bwysig o'r broses.  Bydd cyllidwyr am weld bod Cyngor Tref Penmaenmawr wedi ceisio barn y gymuned a datblygu’r cynlluniau sy'n adlewyrchu'r adborth a gawsom gan aelodau'r gymuned.  Bydd yr holiadur yn cymryd tua phum munud i'w gwblhau. 

Cyfrinachedd a GDPR
Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn yr holiadur hwn yn gyfrinachol.  Ni ofynnir am eich gwybodaeth bersonol, a rhowch yr wybodaeth hon dim ond os ydych am i ni gysylltu â chi-gallwch ychwanegu eich manylion cyswllt yn y blwch sylwadau olaf ar yr holiadur os yw hyn yn wir.  Ni fydd unrhyw sylwadau yn cael eu priodoli i unigolion yn y cynllun a gynhyrchir, ac ni fydd unrhyw ddata a ddarparwch yn cael eu pasio i drydydd partïon.   

Dyddiad cau ar gyfer cwblhau
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r holiadur hwn yw: Dydd Llun 29 Hydref 2018

Mae tri opsiwn ar gyfer cwblhau a dychwelyd yr holiadur:
a)       Ar-lein drwy’r ddolen hon wedi’i phostio ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Tref Penmaenmawr

b)      Mae copïau caled o'r holiadur ar gael mewn mannau cyfarfod amrywiol yn y gymuned, neu gallwch gysylltu â Martin Clerc Cyngor y Dref am gopi

Gall y copïau wedi’u cwblhau o’r holiaduron gael eu dychwelyd i Swyddfa Cyngor Tref Penmaenmawr.  

Diolch i chi am roi o'ch amser i lenwi'r holiadur hwn. 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur neu’r prosiect hwn, cysylltwch â Martin Hanks, Clerc Cyngor Tref Penmaenmawr:
01492 621332
clerk@penmaenmawr.org

Question Title

* 1. Rwyf yn cydsynio i'r wybodaeth a roddaf gael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

Question Title

* 2. Ydych chi'n breswylydd ym Mhenmaenmawr?

Question Title

* 3. Ydych chi'n defnyddio promenâd Penmaenmawr?

Question Title

* 4. Ar gyfer beth ydych chi'n defnyddio’r promenâd?

Question Title

* 5. Beth byddai'n eich annog i ddefnyddio’r promenâd yn amlach? (Er enghraifft: mannau cysgodol, gwell ardal chwarae, parc sglefrio, meinciau picnic, ac ati).

Question Title

* 6. A oes unrhyw beth sy'n eich atal chi rhag defnyddio’r promenâd?

Question Title

* 7. Pa syniadau sydd gennych i wella’r promenâd, i'w gwneud yn fwy deniadol i bob oedran?

Question Title

* 8. Pe byddech yn cael £50,000 i wario ar wneud gwelliannau i'r promenâd, neu i ychwanegu pethau i'w wneud yn well ar gyfer y gymuned, ar beth byddech chi’n ei wario?

Question Title

* 9. Unrhyw sylwadau eraill:

T