Ymateb brys trydydd sector Cymru i’r argyfwng yn Wcráin

Mae’r sefyllfa sy’n datblygu yn Wcráin wedi bod yn dorcalonnus i’w gwylio. Fel gyda phob argyfwng dyngarol arall, mae’r sector gwirfoddol wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn barod i gynorthwyo’r rheini mewn angen. Trwy godi arian, lobïo’r llywodraeth, cefnogi ffoaduriaid, a lliaws o ffyrdd eraill.
Lansiodd CGGC arolwg cenedlaethol i asesu gallu’r sector i ymateb i’r argyfwng hwn. Diben yr arolwg hwn yw: 
 
·         sefydlu manylion cyswllt i randdeiliaid allweddol cenedlaethol CGGC gysylltu â nhw ar y gwaith pwysig hwn;
·         casglu gwybodaeth, barn, astudiaethau achos;
·         pennu heriau ac anghenion cymorth ar gyfer y trydydd sector.
 
Dylai’r arolwg byr hwn gymryd 20 munud i’w gwblhau.
1.Enw’r mudiad:
2.Categori o ddiddordeb 
3.Ardal weithredu ddaearyddol
4.Prif gyswllt ar gyfer cymorth brys Wcráin
5.A fyddech chi’n hoffi derbyn diweddariadau gwybodaeth ynghylch cymorth brys Wcráin?
6.Beth ydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd tuag at ymateb brys Wcráin? (e.e. rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth, codi arian, casglu rhoddion ac ati)
7.Beth allech chi ei wneud i gynorthwyo pobl Wcráin i adsefydlu yng Nghymru?
8.Disgwylir i ddinasyddion Wcráin ddod i mewn i Gymru drwy dri llwybr, a bydd gan bob un ofynion gwahanol. I bwy, yn eich tyb chi, fydd eich cymorth yn fwyaf perthnasol a defnyddiol iddo? Ticiwch bob un sy’n berthnasol.
9.A oes gennych chi wybodaeth/adnoddau yr hoffech chi eu rhannu? Os oes, rhowch fanylion byr a hyperddolenni i wybodaeth/adnoddau perthnasol.
10.Pa gymorth sydd angen i chi barhau i’w roi a/neu roi mwy ohono? 
11.A oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu sylwadau?
12.A fyddech chi’n cytuno i rywun gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth a/neu astudiaeth achos gennych chi?
Camau nesaf

Diolch am gwblhau’r arolwg hwn.

Gweler yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan CGGC.

Mae Gwirfoddoli Cymru yn blatfform digidol i fudiadau recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, ac i wirfoddolwyr ddod o hyd i gyfleoedd.  Postiwch gyfleoedd newydd ar y wefan hon os yn bosibl, gan ddefnyddio'r categori 'Wcráin'

 Mae Cyllido.Cymru yn cysylltu’r sector gwirfoddol â noddwyr a bydd yn parhau i gael ei diweddaru pan fydd ffynonellau newydd o gyllid yn ymddangos sy’n ymwneud yn benodol â’r materion hyn.
Current Progress,
0 of 12 answered