Croeso i'r ymgynhoriad
Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae eich adborth yn bwysig.
Am y Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi bod yn arwain ar ddatblygu’r Safonau Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol. Mae’r safonau wedi’u cydgynhyrchu gan grŵp datblygu cenedlaethol aml-asiantaeth yn ogystal â grwpiau eraill sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol o’r gwaith.
Datblygwyd y safonau oherwydd bod:
- nid oedd unrhyw safonau aml-asiantaeth, cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant diogelu ar waith
- roedd diffyg cysondeb o ran cynllun, cynnwys a darpariaeth hyfforddiant diogelu ar draws sefydliadau yng Nghymru
- roedd dryswch ynghylch y lefelau priodol o hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu.
Bydd y safonau’n helpu sefydliadau i wneud yn siŵr:
- eu bod yn ymgorffori'r safonau ar gyfer ymarferwyr yn eu polisïau a gweithdrefnau diogelu
- bod ymarferwyr yn deall eu cyfrifoldebau sy’n berthnasol i’r grŵp y maent ynddo a sut i ddilyn y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol
- bod pob ymarferydd yn cael mynediad i Weithdrefnau Diogelu Cymru ac yn cydymffurfio â nhw.
Rydym wedi rhannu’r safonau yn chwe grŵp (A i F) sy’n adlewyrchu rolau a chyfrifoldebau pobl a allai fod yn gysylltiedig ag arferion diogelu.
Dyddiad cau’r ymgynghoriad yw 11:59pm, 17 Mehefin 2022.