Croeso i arolwg cydraddoldeb ac amrywiaeth aelodau Athletau Cymru.
Mae athletau yn parhau i dyfu'n sylweddol yng Nghymru ac rydym yn chwilio am ffyrdd o wella darpariaeth a chefnogaeth i'n haelodaeth sy'n datblygu. Hoffem ddeall y boblogaeth amrywiol sy'n ymwneud ag athletau a deall eu profiadau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn rhai cwestiynau amdanoch chi, ac am lefel eich gweithgaredd corfforol a’r ffordd yr ydych yn cymryd rhan yn y gamp.
Fe’ch anogwn i ateb gymaint o gwestiynau ag y gallwch gan fod pob ymateb yn rhoi goleuni pellach inni ar broffil athletau ledled Cymru. Bydd eich barn yn gymorth i ni lunio llawer o'n rhaglenni dros y blynyddoedd nesaf, wrth i ni geisio sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan a mwynhau athletau. Bydd canlyniadau'r arolwg hefyd yn gymorth i ni archwilio mentrau newydd er mwyn denu aelodaeth fwy amrywiol, a fydd yn gwella datblygiad ein clybiau a'n grwpiau ymhellach.
Mae'r arolwg yn gwbl gyfrinachol, ac nid ydym yn gofyn am eich manylion cyswllt oni bai eich bod yn dymuno eu rhannu. Bydd ymatebion yn cael eu cyfuno mewn adroddiad a fydd yn ein helpu i ddatblygu lefel y gefnogaeth a'r gwasanaethau a gynigiwn.
Byddwn yn storio eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 1998.
Diolch i chi am roi amser i gwblhau'r arolwg hwn ac am eich cefnogaeth barhaus i athletau ledled Cymru
James Williams, Prif Weithredwr Dros Dro
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â James Williams james.williams@welshathletics.org