Blaenoriaethau Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Mae’r Pwyllgor Cyllid wrthi’n casglu barn pobl ar yr hyn y dylid ei gynnwys yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22

Hoffem glywed gan gymaint â phosibl o leisiau’r sector wrth i ni ddrafftio ein hymateb i’r ymgynghoriad hwn. A allwch chi ateb cymaint ag y dymunwch o’r cwestiynau canlynol? Dylai’r arolwg gymryd 10 i 15 munud i’w gwblhau yn llawn

Bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried i’w gynnwys yn ein hymateb i’r ymgynghoriad. Os ydych chi’n hapus i’ch enw chi neu enw eich mudiad gael ei nodi o fewn ein hymateb, gadewch eich manylion isod. Ni fydd y manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata. Os na fyddwch chi’n nodi’r manylion hyn, bydd eich adborth yn cael ei adael yn ddienw.


Gofynnir am eich cyfeiriad e-bost rhag ofn y bydd gennym unrhyw gwestiynau dilynol, ond nid oes rhaid i chi ei roi.

Cwblhewch yr arolwg hwn erbyn dydd Mawrth 3 Tachwedd 2020. Anfonwch e-bost at David Cook ar dcook@wcva.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
1.Enw
2.Mudiad
3.Cyfeiriad e-bost
4.Rwy’n ateb yr arolwg hwn
5.Beth oedd effaith cyllideb 2020-21 Llywodraeth Cymru ar eich mudiad?
6.Beth yw eich barn chi ar effaith gweithgareddau cyllido Covid-19 Llywodraeth Cymru?
7.Sut dylai Llywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau ar gyfer 2021-22 er mwyn ymateb i’r pandemig?
8.Pa mor barod yw eich mudiad yn ariannol ar gyfer 2021-22? Eglurwch eich ateb.
9.Sut gallai Cyllideb y flwyddyn nesaf roi mwy o sicrwydd i’ch mudiad?
10.A ddylid gwneud newidiadau i’r broses gyllidebu a chraffu er mwyn gwneud cyllidebu’n fwy tryloyw a Gweinidogion yn fwy atebol?
11.A yw’n amlwg sut mae tystiolaeth yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn y broses gyllidebu?
12.A yw’r Fframwaith Cyllidol yn rhoi darlun cywir o effaith Covid-19 ar Gymru o’i chymharu â gwledydd eraill?
13.A ydych chi o blaid cynyddu’r terfynau benthyca cyfredol yng Nghymru er mwyn cynorthwyo â’r gwaith o oresgyn ac adfer o’r pandemig?
14.Sut dylai adnoddau dargedu adferiad economaidd a beth ddylid ei flaenoriaethu?
15.A ddylid blaenoriaethu’r newid yn yr hinsawdd wrth gefnogi adferiad economaidd – os felly, sut?
16.A ddylid blaenoriaethu gwario ataliol – os felly, sut?
17.Sut dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethiant a benthyca?
18.A oes gennych chi unrhyw sylwadau ar sut gallai’r Gyllideb wneud y canlynol …
Diolch am gwblhau’r arolwg hwn.