Arolwg Ymgynghori i asesu’r angen am ddatrysiadau cludiant yn Sir Ddinbych Manylion am yr arolwg hwn:
Diolch yn fawr iawn i chi am gytuno i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.
Rydym ni’n awyddus i ddatblygu dewisiadau cludiant newydd ar gyfer pobl Sir Ddinbych, ond yn gyntaf mae angen i ni asesu’r hyn sydd ei angen, yn lle, a phwy fyddai’n debygol o ddefnyddio’r gwasanaethau newydd.
Atebwch y cwestiynau isod mor fanwl ag y bo modd, os gwelwch yn dda.
Fyddwn ni ddim yn rhannu eich manylion gydag unrhyw un arall, a bydd eich atebion yn cael eu cadw mewn cyfrinachedd llwyr. Bydd yr holl atebion yn cael eu casglu at ei gilydd i hysbysu ein datrysiadau cludiant strategol ar gyfer y sir a’r rhanbarth ar gyfer pobl sy’n byw yng ngogledd Cymru.
Os hoffech chi gael cymorth i ateb cwestiynau’r arolwg, neu os hoffech chi gael rhagor o fanylion neu adborth, cysylltwch gyda Jane Walsh yn y Gymdeithas Cludiant Cymunedol:
jane@ctauk.org / 01745 356751 / 07747 020369