Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.
Arolwg CGGSG
Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Gâr (CSG) a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CGGSG) yn rhannu’r awydd i ddatblygu a thyfu’r trydydd sector yn y Sir trwy weithio mewn partneriaeth i drosglwyddo gwasanaethau ymarferol ar gyfer cymunedau yn Sir Gaerfyrddin sydd eu hangen.
Mae’r sector wirfoddol a chymunedol wedi bod yn hanfodol wrth gynnull gwirfoddolwyr ac ateb anghenion lleol yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, fel llawer o adrannau eraill o gymdeithas, mae sefydliadau’r trydydd sector yn wynebu ansicrwydd digyffelyb oherwydd effaith uniongyrchol a thymor hirach COVID-19.
Mae’r pandemig wedi achosi llu o wahanol heriau ond mae hefyd wedi creu cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol. Gan ystyried hyn, mae Cyngor Sir Gâr a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr wedi gwahodd ymgynghorydd annibynnol i adolygu’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau’n lleol. Mae hwn yn gyfle i bwyso a mesur gweithgarwch yn ystod y pandemig ac i hysbysu datblygiad CGGSG wrth gefnogi’r sector i gael ei thraed tani ar ôl COVID-19. Mae cyfle i ddysgu oddi wrth y profiad unigryw hwn wrth inni ail-agor gwasanaethau ac ail-bennu ein blaenoriaethau strategol a gweithrediadol.
Ddylech chi ond ymateb os ydych yn sefydliad nid-er-elw sy’n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin.
Byddem yn ddiolchgar pe gallai’r person mwyaf priodol yn eich sefydliad gwblhau’r holiadur hwn. Rydym yn chwilio am un ymateb gan bob sefydliad, felly a fyddech cystal â gwirio pwy sydd yn y sefyllfa orau i gwblhau’r holiadur hwn.