Question Title

Image
Mae'r arolwg hwn i ofalwyr di-dâl, er mwyn iddynt gael y cyfle i roi eu barnau ar yr hawliau maen nhw wedi'u derbyn o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf). Yn unol â’r Ddeddf, gofalwr yw rhywun sy'n gofalu, neu sy’n bwriadu gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu.

Mae’r Ddeddf yn gosod amryw o ddyletswyddau ar gynghorau.  Yn arbennig:
  • Mae’n rhaid i gynghorau lleol ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth, gyda gwybodaeth am ofal a chymorth, a darparu cyngor ar ble i gael cefnogaeth
  • Os yw’n ymddangos bod angen cefnogaeth arnoch chi fel gofalwr (naill ai nawr neu yn y dyfodol), yr hawl i gael asesiad o'ch anghenion
  • Yr hawl i ofyn am gael asesiad o anghenion gofalwyr
  • Yr hawl i chi i ddweud os ydych chi'n awyddus i barhau yn eich rôl ofalu, ac yn gallu gwneud hynny
Ers y cyflwynwyd y Ddeddf, mae Gofalwyr Cymru, drwy’r arolwg hwn, wedi casglu eich profiadau mewn ymgais i geisio deall  a oes cynnydd yn cael ei wneud.  Rydym wedi dadansoddi a defnyddio eich atebion o’r 3 mlynedd ddiwethaf i ysgrifennu papurau briffio, ac rydym wedi gwneud argymhellion pwysig sydd wedi’u hanelu at wleidyddion a gwneuthurwyr polisi.  Mae llawer o’r argymhellion hyn wedi cael eu datblygu gan Lywodraeth Cymru a chynghorau i geisio gwella sut mae’r Ddeddf yn gweithio.

Rydym angen parhau â’r momentwm, ac rydym yn ddiolchgar i chi am ein helpu ni drwy lenwi’r holiadur hwn.

T