Arolwg Porthol Ar-lein CTSC

Sut ydych yn defnyddio technoleg i gael mynediad at wybodaeth ac adnoddau dysgu i’ch mudiad?

Diolch am gymryd rhan yn yr arolwg byd hwn am y gwasanaethau digidol mae CGGC ac eich Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) yn ei ddarparu. Dylai gymryd llai na pymtheg munud i’w gwblhau.

Bydd y wybodaeth o’r arolwg hwn yn ein helpu i ddeall sut yr ydych yn defnyddio gwasanaethau ar-lein a digidol fel y gallwn eu gwneud yn haws i’w defnyddio ac yn well. Rydym hefyd eisiau rhoi’r cyfle i chi gymryd fwy o ran wrth ddylunio gwasanaethau ar eich cyfer.

Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei rannu hefo ni’n cael ei ddefnyddio’n unig i gefnogi a gwella gwasanaethau digidol a ddarparir gan CGGC a’r 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol ledled Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg yw dydd Gwener 27 Medi 2019.

Diolch am gymryd rhan – mae eich barn yn bwysig i ni.

Os ydych yn cael unrhyw drafferthion wrth gwblhau’r arolwg hwn neu eisiau gwybod mwy am y gwaith hwn cysylltwch â Sara Sellek yn CGGC – ssellek@wcva.cymru neu ffoniwch: 029 2043 1777

* Rhwydwaith o fudiadau cymorth i’r trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CTSC). Ceir ynddo’r 19 corff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a’r corff cymorth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).
1.Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio eich sefydliad orau?
2.Ydych chi’n aelod o CGGC neu unrhyw Gyngor Gwirfoddol Sirol?
3.Nifer y staff a gwirfoddolwyr yn eich sefydliad?
4.Beth yw eich Swydd?
5.Ydy eich gwefan yn trosglwyddo gwybodaeth i gleientiaid, aelodau, defnyddwyr etc?
6.Rhowch amlinelliad o’r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani ar-lein.
7.Ble yr ydych yn cael gafael ar y wybodaeth hon? Rhestrwch hyd at 5
8.Pa ddyfeisiadau a ddefnyddir gan y bobl yn eich sefydliad yn eu gwaith?
9.Ydych chi’n defnyddio adnoddau ar-lein wrth weithio gyda chleientiaid/aelodau/defnyddwyr?
10.Sut mae eich defnyddwyr annhechnegol yn cael mynediad at wybodaeth?
11.Ydych chi’n fodlon bod gan y bobl yn eich sefydliad y galluoedd digidol i ymgysylltu â’r porthol ar-lein?