Check Screen Reader Mode to make this survey compatible with screen readers.
Check Screen Reader Mode to make this survey compatible with screen readers.

Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) a Chyfleoedd Croeso Cymru - Llety

Cyfle a Cais am Adborth

Mae Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) yn farchnad ddigidol ganolog. Mae'n galluogi cyflenwyr twristiaeth i gontractio a chysylltu eu cynnwys, eu hargaeledd a'u prisiau ag ystod amrywiol o ddosbarthwyr ar yr un pryd a rheoli hyn mewn un lle.

Mae TXGB yn caniatáu i gyflenwyr archebu lle ar ystod eang o sianeli dosbarthu (gan gynnwys gweithredwyr arbenigol, cyrchfannau ac OTAs). Nid oes tâl cysylltu, nid oes rhaid i chi gael archebion ar-lein ar eich gwefannau eich hun, a gallwch reoli eich dosbarthiad i gyd mewn un lle. Yn syml, rydych chi'n talu ffi archebu o 2.5% - dim ond ar archebion a gynhyrchir - ynghyd â chomisiwn y dosbarthwr a ddewiswyd.

Gall defnyddio’r Gyfnewidfa Dwristiaeth:
  • darparu ffordd hawdd o weithio gyda mwy o sianeli heb gynyddu gweinyddiaeth, cyrraedd mwy o gwsmeriaid, cynyddu gwerthiant, lleihau dibyniaeth ar un sianel werthu a lleihau costau comisiwn
  • darparu mynediad i fwy o sianeli dosbarthu a sicrhau bod modd archebu sgil-gynhyrchion mewn ymgyrchoedd marchnata cyrchfan cenedlaethol a rhanbarthol.
Mae Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru wedi trwyddedu TXGB i sicrhau ei fod ar gael i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae platfform TXGB Cymru Wales bellach ar waith ac mae busnesau a rhanbarthau Cymru yn cael eu cynnwys.

Er mwyn ein helpu i ddeall y sefyllfa bresennol o ran archebu a marchnata busnesau Cymru, byddem yn gwerthfawrogi eich amser yn cwblhau'r arolwg hwn.
1.Enw Busnes
2.Cyfeiriad Ebost
3.Pa fath o gynnyrch llety ydych chi'n ei gynnig?(Required.)
4.Ydych chi wedi'ch graddio gan Croeso Cymru neu AA ar hyn o bryd?
5.A oes modd archebu'r cynhyrchion hyn ar eich gwefan eich hun ar hyn o bryd?
6.A ydych yn gwerthu eich cynnyrch drwy gwmni drydydd parti (e.e. drwy Asiantau Teithio Ar-lein, Trefnwyr Teithiau ac ati)
7.Os ydych i C6 rhowch rywfaint o wybodaeth am bwy rydych yn gweithio gyda nhw ar hyn o bryd
8.Os na i C6 a oes rheswm am hyn? Nodwch os gwelwch yn dda
9.Os ydych chi'n gwerthu'ch cynhyrchion trwy lwyfannau trydydd parti, faint o gomisiwn ydych chi'n ei dalu?
10.A oes gennych system archebu ar waith i reoli eich archebion/gwerthu tocynnau, cymryd archebion ar-lein a chael mynediad at ddosbarthu?
11.Os oes i C10, pa system(au) ydych chi'n eu defnyddio?(Required.)
12.Os na i C10, a allwch chi nodi'r rheswm am hyn? Pa faterion ydych chi wedi'u hwynebu?
13.Os ydych yn aelod o Dwristiaeth Gogledd Cymru a fyddai gennych ddiddordeb mewn rhannu eich nwyddau y gellir eu harchebu ar wefan Go North Wales am 0% comisiwn?(Required.)
14.A fyddai gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut y gallech elwa o gysylltu â TXGB?
15.Pa gyfleoedd Croeso Cymru ydych chi’n ymgysylltu â nhw ar hyn o bryd? (ticiwch bob un sy'n berthnasol)
16.Ydych chi’n ymgysylltu â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Croeso Cymru? Er enghraifft, dilyn a chynnwys @visitwalestrade ar LinkedIn, Twitter a Facebook; @MeetInWales ar LinkedIn, Twitter ac Instagram
17.Os hoffech i ni drosglwyddo eich manylion i Croeso Cymru iddynt gysylltu â chi’n uniongyrchol am un neu fwy o’r cyfleoedd canlynol, nodwch isod
18.Unrhyw Sylwadau Eraill h.y. ynghylch y gallu i archebu a chymorth marchnata i fusnesau twristiaeth Cymru?