Sut byddwn yn defnyddio eich safbwyntiau
Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan ein staff sy’n ymdrin â’r materion yn yr ymgynghoriad hwn. Gallai aelodau staff eraill eu gweld hefyd i’n helpu i gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol.
Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Efallai y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn hefyd. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Mae hyn yn helpu i ddangos y cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn briodol. Os nad ydych am i’ch enw neu’ch cyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni’n ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Yna, byddwn yn eu cuddio.
Mae’n bosibl y bydd enwau neu gyfeiriadau rydym yn eu cuddio yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach o hyd, ond nid ydym yn credu y byddai hynny’n digwydd yn aml iawn. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu’r cyhoedd i ofyn am gael gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth nad yw wedi’i chyhoeddi.
Mae’r gyfraith hefyd yn caniatáu i ni gadw gwybodaeth yn ôl mewn rhai amgylchiadau. Os bydd unrhyw un yn gofyn am gael gweld gwybodaeth a gadwyd yn ôl gennym, bydd angen i ni benderfynu a fyddwn yn ei chyhoeddi ai peidio. Os bydd rhywun wedi gofyn i ni beidio â chyhoeddi ei enw a chyfeiriad, mae hynny’n ffaith bwysig y byddem yn ei hystyried. Weithiau, gallai fod rhesymau pwysig pam y byddai’n rhaid i ni ddatgelu enw a chyfeiriad rhywun, hyd yn oed os bydd wedi gofyn i ni beidio â’u cyhoeddi. Byddem yn cysylltu â’r unigolyn hwnnw ac yn ceisio ei farn cyn penderfynu datgelu’r wybodaeth.