Check SCREEN READER MODE to make this survey compatible with screen readers.
Strengthening and Advancing Equality and Human Rights in Wales: Questionnaire (Cymraeg)
Gwybodaeth gefndir
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar sut i Gryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgolion Abertawe a Bangor, a Diverse Cymru. Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau 2021.
Pwrpas yr holiadur hwn yw casglu tystiolaeth am y materion cydraddoldeb a hawliau dynol y mae angen eu blaenoriaethu, a cheisio barn ar gamau gweithredu posibl gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.
Os ydych chi yn cynrychioli sefydliad, cwblhewch yr holiadur hwn os gwelwch yn dda. Os ydych chi yn unigolyn ac nad ydych chi’n cynrychioli sefydliad, cwblhewch yr holiadur isod ar gyfer unigolion. Gallwch hefyd gwblhau’r ddau.
Chi sydd i ddewis a ydych chi am lenwi'r holiadur hwn ai peidio.
Os byddwch yn penderfynu llenwi’r holiadur, ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth a fydd yn eich adnabod. Mae’r arolwg yn ddienw. Cewch beidio ag ateb unrhyw gwestiwn os nad ydych yn dymuno. Ar ôl i chi lenwi’r holiadur, ni fyddwn yn gallu tynnu eich atebion o’n hymchwil, gan ei fod yn ddienw.
Byddwn yn defnyddio canfyddiadau’r holiadur fel sail i’n hadroddiad i Lywodraeth Cymru. Gallwn hefyd ddefnyddio’r canfyddiadau mewn cyflwyniadau cyhoeddus ar yr ymchwil, neu mewn erthyglau neu gyhoeddiadau am yr ymchwil.