Cyflwyniad

Mae Pobl a Gwaith wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r rhaglen beilot CAMHS mewngymorth i ysgolion. Mae'r rhaglen beilot, sy'n gweithredu mewn tair ardal (de-ddwyrain, gorllewin a gogledd Cymru), yn ddull arloesol ar draws addysg ac iechyd i gefnogi staff yr ysgol i; nodi a deall pryderon iechyd meddwl lefel isel disgyblion a mynd i'r afael â'r pryderon hyn. Mae'n bwysig felly bod tystiolaeth ar weithredu'r rhaglen beilot a'i chanlyniadau'n cael ei hasesu'n gadarn, er mwyn llywio datblygiad y rhaglen a phenderfyniadau am y posibilrwydd o gyflwyno'r rhaglen yn genedlaethol. 

Mae'r holiadur ar-lein hwn wedi cael ei ddatblygu i nodi staff addysg, fel arweinwyr ysgolion, Cydlynwyr AAA/Cydlynwyr ADY, hyder, gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon a staff cymorth, ac ymarfer mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant. Dylai gymryd tua 10 munud i chi lenwi'r holiadur.

Caiff ymatebion staff eu defnyddio i fesur y sefyllfa ‘llinell sylfaen’ a hyd yn oed os nad ydych wedi cymryd rhan yn y cynllun peilot, rydym am glywed gennych o hyd. Caiff staff addysg eu gwahodd i lenwi'r holiadur eto yn ddiweddarach yn 2019 ac yn 2020, er mwyn galluogi mesur newidiadau o ran hyder, gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymarfer staff. 

Hoffem gasglu gwybodaeth am eich rôl a'ch ysgol, ond nid ydym yn gofyn am eich enw a byddwn yn sicrhau bod yr holl ddata yn ddienw fel nad oes modd eich adnabod. 

Beth fydd canlyniadau'r ymchwil?
Caiff adroddiad interim ar yr ymchwil ei gyhoeddi ar ddechrau 2020 a chaiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ar ddechrau 2021. Bydd yr adroddiadau yn helpu i lywio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen beilot, penderfyniadau am unrhyw benderfyniad posibl i gyflwyno'r rhaglen yn genedlaethol, a nodi gwersi sy'n berthnasol i bolisïau llesiant ehangach. 

Manylion am y tîm ymchwil
Mae tîm ymchwil Pobl a Gwaith yn cael ei arwain gan Dr Duncan Holtom, ei gefnogi gan Dr Sarah Lloyd-Jones, Rhodri Bowen, Hibah Iqbal a Val Williams. Os hoffech gysylltu â'r tîm ymchwil, anfonwch e-bost at Duncan Holtom yn duncan.holtom@peopleandwork.org.uk; 

Os hoffech gysylltu â Llywodraeth Cymru am y gwaith hwn, cysylltwch â David Roberts yn David.roberts@gov.wales

T