Cerrig Milltir a Dangosyddion Cenedlaethol i fesur cynnydd ein cenedl. Sut gall y sector gwirfoddol gymryd rhan?

Mae CGGC yn awyddus i ddeall pa wybodaeth sydd gan y sector gwirfoddol am waith Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Dangosyddion a Cherrig Milltir Cenedlaethol a fydd yn mesur cynnydd Cymru fel cenedl, a sut mae’r sector yn cymryd rhan yn y gwaith hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ‘y gall gosod cerrig milltir cenedlaethol yn erbyn y dangosyddion hyn helpu i ysgogi cydweithredu, yn ogystal â’n helpu i ddeall cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant’.

Gweler dudalen yr ymgynghoriad am ragor o wybodaeth am y gwaith hwn.

Isod ceir arolwg byr i geisio ein helpu ni i greu darlun o gysylltiad y sector. Dylai gymryd oddeutu 10 munud i’w gwblhau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Cook, Swyddog Polisi CGGC.

Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Gwener 15 Hydref 2021.
1.Pa mor ymwybodol ydych chi o’r rhaglen Cerrig Milltir/Dangosyddion Cenedlaethol? (1 – ddim o gwbl, 5 – ymwybodol iawn)
1
2
3
4
5
2.A yw’n bwysig i’r sector gymryd rhan yn y gwaith hwn?
3.Ar hyn o bryd, mae ‘Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli’ yn ddangosydd sy’n bwydo i mewn i nifer o’r dangosyddion. Bydd y dangosyddion hyn, yn eu tro, yn hysbysu nifer o gerrig milltir: ‘miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’, ‘Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050’, ‘Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050’, ‘Lleihau canran y plant â llai na dau ymddygiad iach i 6% erbyn 2035 a llai nag 1% erbyn 2050’, a ‘Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r byd y bydd Cymru’n ei defnyddio erbyn 2050’.

Sut ydych chi’n credu gall y sector gwirfoddol gyfrannu at y cerrig milltir hyn?
4.A ydych chi’n teimlo y dylai ‘y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli’ fod yn garreg filltir yn ei hun?
5.Os yw eich mudiad yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, sut byddech chi’n teimlo pe bai gofyniad yn cael ei gyflwyno yn gofyn i chi adrodd ar sut mae’r cyllid hwn wedi cyfrannu at y Dangosyddion Cenedlaethol? (Noder: Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi hwn fel polisi arfaethedig.) 
6.Mae’r cwestiynau canlynol yn opsiynol. Atebwch y rhain dim ond os ydych chi’n fodlon i CGGC gysylltu â chi o bosibl am ragor o fanylion ar eich ymatebion.

Enw
7.Mudiad (os yw’n berthnasol)
8.Cyfeiriad e-bost
Diolch am gymryd yr amser i gwblhau’r arolwg hwn.
Current Progress,
0 of 8 answered