Dwedwch wrthyn ni beth sy’n bwysig i chi a helpwch ni i gynllunio ar gyfer darpariaeth tai i’r dyfodol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl yn gwneud penderfyniadau gwahanol am y lle mae'n nhw'n byw ynddo wrth iddynt heneiddio. Bydd rhai pobl am aros yn yr un lle; bydd rhai am symud i gartrefi haws eu cynnal ac eraill yn teimlo mai cartref i’r henoed sydd orau at eu hanghenion.

Os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn, hoffem wybod am eich cynlluniau…

Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg ac yn dechrau meddwl am ba le yr hoffech chi fyw ynddo wrth heneiddio, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Rydym eisiau clywed gan bobl sy’n byw mewn pob math o lety.

Os ydych eisoes wedi symud, hoffem glywed eich rhesymau dros symud.

Dyma’ch cyfle chi i ddylanwadu ar:
  • dai i bobl hŷn yn y dyfodol;
  • y math o dai sydd ar gael i bobl hŷn;
  • nifer y tai sy’n cael eu hadeiladu; a
  • lle y byddant yn cael eu hadeiladu.

Dyddiad cau’r arolwg hwn yw 12 Mawrth 2018.
 
Dylai’r arolwg hwn gymryd tua 15 munud i chi ei gwblhau.
 
Raffl i ennill taleb siopa werth £50!
I ddiolch i chi am lenwi’r arolwg mae cyfle gennych i ennill gwobr – rhagor o wybodaeth ar gael ar ôl cwblhau’r arolwg
 
6% of survey complete.

T