Cyflwyniad i Gyflogwyr

Mae gan y Ganolfan Arloesedd Seiber (CIH) genhadaeth i drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn glwstwr seiberddiogelwch blaenllaw erbyn 2030. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym yn gobeithio creu o leiaf 25 o gwmnïau twf uchel newydd ac uwchsgilio o leiaf 1500 o bobl mewn sgiliau seiber erbyn 2030. 
 
Nid yw’n gyfrinach bod prinder pobl sydd â sgiliau seiber. Rydym nawr wrthi’n cwmpasu ein rhaglen darparu sgiliau ac rydym yn awyddus i gasglu ystod eang o safbwyntiau er mwyn sicrhau bod ein rhaglen sgiliau yn diwallu anghenion cyflogwyr. 
 
Trwy gydol yr arolwg hwn gellir mynd i'r afael â rolau 'seiber craidd' ac 'a seiber-alluogwyd' ar wahân. Diffinnir y rolau hyn yn Adran 7.1 o adroddiad canfyddiadau ‘Cyber security skills in the UK labour market 2022’ DCMS (yr Adran Ddigidol, Cyfryngau Diwylliant a Chwaraeon) fel a ganlyn: 

Mae rolau seiber craidd yn rolau lle mai seiberddiogelwch yw prif swyddogaeth y swydd a lle mae mwy o alw am sgiliau ac offer sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â seiberddiogelwch (e.e. Pensaer Seiberddiogelwch, Peiriannydd Seiberddiogelwch, Ymgynghorydd Seiberddiogelwch, Dadansoddwr a Phrofwr Treiddiadau Canolfan Gweithrediadau Diogelwch (SOC)).

Nid yw rolau a seiber-alluogwyd yn cael eu cydnabod yn ffurfiol fel swyddi seiberddiogelwch, ond mae angen gwybodaeth lai manwl a chymhwyso sgiliau seiberddiogelwch technegol o hyd (e.e. ar gyfer technegwyr TG neu rolau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio). Ochr yn ochr â sgiliau seiberddiogelwch, maent yn mynnu sgiliau TG a busnes mwy cyffredinol, megis rheoli prosiectau, asesu risg, peirianneg rhwydwaith, SQL, gweinyddu systemau, a chymorth technegol.
 
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni. Gweler ein polisi preifatrwydd i gael gwybodaeth am sut rydym yn trin eich data.

Gwneir yr ymchwil yn unol â phob deddf genedlaethol sy'n diogelu eich data personol.  Rydym yn cydymffurfio'n llawn â'r Ddeddf Diogelu Data (DU) a GDPR (Ewrop).  Os hoffech weld ein polisi data a darllen am eich hawliau yn llawn gallwch ddod o hyd iddynt yn ein dogfen polisi preifatrwydd. 
 
Rydym hefyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau moeseg ac arfer gorau fel y nodir gan godau ymddygiad Cymdeithas Cudd-wybodaeth Busnes Gofal Iechyd Prydain (BHBIA) a Chymdeithas Ymchwil y Farchnad (MRS) ynghylch anhysbysrwydd a chyfrinachedd.
 
Nod yr ymchwil hon i’r farchnad yw cael eich barn, ac ni fwriedir iddi fod yn hyrwyddol, ac ni fydd unrhyw un yn ceisio gwerthu unrhyw beth i chi. Bydd unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei datgelu yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol. Mae'r canlyniadau'n cael eu cydgasglu ac maent yn ddienw. Yn ogystal â hyn, mae croeso i chi dynnu'n ôl o'r ymchwil ar unrhyw adeg.

Ni fydd gan y sefydliadau sy'n noddi fynediad at unrhyw ddata personol sy'n gysylltiedig â'ch ymatebion.
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cyfranogiad, cysylltwch â Gatehousemarketresearch@Gatehouse-ICS.com
 
Drwy barhau â'r arolwg hwn rydych yn cydsynio i ymatebion dienw gael eu storio, eu dadansoddi a'u defnyddio gan CIH at y dibenion a ddatganwyd uchod.
Page1 / 5
 
20% of survey complete.

T