Cyfrifoldebau Aelodau Rhwydwaith y Gynghrair Mae disgwyl i Aelodau’r Rhwydwaith ddangos eu hymrwymiad i helpu cyflawni gweithgareddau’r Cynghrair a gyrru’r agenda cynhwysiant digidol yng Nghymru, trwy’r cyfrifoldebau sydd wedi’u rhestru isod:
1. Gweithio o fewn eich sefydliad a’ch sector i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant digidol ac i’w helpu i wreiddio ym mhob gweithgaredd. Mae hyn yn cynnwys:
· Ymrwymo i
Siarter Digidol Cymunedau Digidol Cymru a gweithio tuag at achrediad
· Rhannu’ch taith cynhwysiant digidol trwy blogiau, flogiau, astudiaethau achos a/neu adborth gan staff/cwsmeriaid/cleientiaid
· Bod yn llysgenhadon cynhwysiant digidol ac annog sefydliadau eraill i ymuno â’r Rhwydwaith
2. Cymryd rhan yn weithgar yng nghyfarfodydd y Gynghrair.
3. Mynychu a chymryd rhan mewn calendr o ddigwyddiadau cynhwysiant digidol yn ystod y flwyddyn.
4. Ymateb i alwadau gan y Grŵp Llywio am help i symud gweithgareddau’r Gynghrair yn eu blaen. Gallai hyn gynnwys galwadau am wybodaeth am brosiectau presennol sy’n gysylltiedig â’r 5 maes blaenoriaeth, ateb arolygon a holiaduron ynghylch gweithgareddau cynhwysiant digidol, darparu astudiaethau achos a/neu gyfrannu gwybodaeth at bapurau.
5. Ystyried y pum maes blaenoriaeth ac ystyried a chefnogi Aelodau eraill y Rhwydwaith trwy’r heriau strategol rhag mynd i’r afael â’r meysydd hyn, gan rannu profiadau a syniadau.
6. Gweithredu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cyflwyno gweithgareddau cynhwysiant digidol yn effeithiol.
7. Cymryd rhan mewn trafodaeth adeiladol yn drylwyr i brofi syniadau a dulliau newydd ac i annog safbwyntiau amrywiol.