Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ei Strategaeth Arloesi newydd i Gymru (y Strategaeth).
Nodir mai gweledigaeth y Strategaeth yw ‘meithrin diwylliant arloesi bywiog mewn Cymru gryfach, decach a gwyrddach’.
Bydd CGGC yn ymateb i’r ymgynghoriad hwn, a hoffem glywed gan gymaint â phosibl o leisiau’r sector i’w cynnwys o bosibl yn ein hymateb. Mae’r sector gwirfoddol yn hanfodol i lwyddiant neu fethiant y Strategaeth. Po fwyaf o leisiau y byddwn yn eu clywed, mwya’n byd y gall ein hymateb ddylanwadu ar y gwaith, ac mae hwn yn bolisi pwysig i ni ddylanwadu arno.
Er mwyn casglu safbwyntiau’r sector, rydym wedi datblygu arolwg sy’n seiliedig ar yr ymgynghoriad. Edrychwch arno os gwelwch yn dda.
Noder nad oes angen ateb yr holl gwestiynau; mae croeso i chi ateb cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch.
Bydd yr arolwg hwn yn cau ddydd Gwener 16 Medi 2022.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog Polisi CGGC, David Cook, ar dcook@wcva.cymru.
