Check Screen Reader Mode to make this survey compatible with screen readers.
Check Screen Reader Mode to make this survey compatible with screen readers.

Ffurflen Gais: Creu Cymeriadau o Liw i Blant

Cyn i chi lenwi’r ffurflen hon, awgrymwn eich bod yn darllen y Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, neu os oes unrhyw drafferthion technegol â’r ffurflen, mae croeso i chi gysylltu â Llenyddiaeth Cymru.

Dyddiad cau’r broses gais yw 5.00 pm ar 28 Ionawr 2022.
Eich manylion
1.Allwch chi gadarnhau eich bod yn berson o liw, dros 18 mlwydd oed ac yn byw yng Nghymru?
2.Eich enw llawn
3.Eich cyfeiriad ebost
4.Eich rhif ffôn
5.Eich cyfeiriad cartref, gan gynnwys cod post
6.Eich dyddiad geni
7.Yn eich geiriau eich hun: dywedwch wrthym pam eich bod yn awyddus i ymgeisio am y cyfle hwn

Dim mwy na 300 gair
8.Y gorffennol, y presenol a'r dyfodol: Dywedwch wrthym am eich gyrfa ysgrifennu hyd yn hyn, a beth yw eich amcanion ar gyfer y dyfodol?

E.e., Beth yw'ch perthynas gyda llenyddiaeth, a sut y cychwynodd y berthynas honno? Beth ydych chi wedi ei gyflawni hyd yn hyn, a beth oedd yr uchafbwyntiau? Ydych chi wedi cael profiad o raglenni neu gyrsiau hyfforddi eraill? Beth yw eich amcanion ysgrifennu ar gyfer y dyfodol? Ydych chi eisiau cyhoeddi eich gwaith? Ydych chi eisiau rhedeg gweithdai mewn ysgoion? Rhowch drosolwg i ni, yn eich geiriau eich hun.

Dim mwy na 300 gair
9.Os gwelwch yn dda, uwchlwythwch un enghraifft o’ch gwaith ysgrifennu creadigol gwreiddiol, neu un syniad a all fod yn sail i stori ar gyfer plant hŷn (8-12) neu bobl ifanc (12+). 

Awgrymwn ddarn creadigol o ddim mwy na 1,000 gair.
No file chosen
Caniatâd a Phreifatrwydd
GDPR: Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a’ch data. Caiff y data personol rydych yn ei ddarparu yn y ffurflen gais hon ei brosesu gan Llenyddiaeth Cymru er mwyn gweinyddu eich cais am nawdd, yn unol â’r Ddeddf Gwarchod Data (GDPR). Cedwir y data hwn trwy gyfnod y broses ymgeisio, ac am gyfnod rhesymol ar gyfer adrodd yn ôl a gwerthuso.
10.Ydych chi’n cytuno y caiff Llenyddiaeth Cymru storio a defnyddio’r data a roddir yn y modd yma?
Hoffai Llenyddiaeth Cymru anfon gwybodaeth atoch trwy ebost, ynglŷn â’i ddigwyddiadau, cyfleoedd a chynnyrch. Gallwch ddileu eich caniatâd i dderbyn gwybodaeth Llenyddiaeth Cymru am ei ddigwyddiadau, cyfleoedd a chynnyrch ar unrhyw adeg. I weld eich data personol a gedwir gan Llenyddiaeth Cymru, cysylltwch â ni.
11.Ydych chi'n cytuno?
Cyn gorffen a gyrru eich ffurflen gais, darllenwch y datganiad isod:
12.Rwyf wedi darllen y canllawiau a’u deall, ac mae’r wybodaeth a ddarparwyd gennyf yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth.
Current Progress,
0 of 12 answered