Cyswllt â Chwsmeriaid: Sut yr hoffech fod mewn cysylltiad â ni yn y dyfodol?

Gorffennaf 2021

Yn ystod y mis nesaf byddwn yn crynhoi eich barn chi, ein cwsmeriaid, ynghylch sut y byddech yn hoffi bod mewn cysylltiad â ni ar ôl yr argyfwng COVID. Rhannwch eich barn â ni gan ddefnyddio’r cwestiynau canlynol fel canllaw….
1.Yn ystod y 6 mis diwethaf, pan oedd angen i chi gysylltu ag ateb, sut brofiad oedd hynny?
2.Pa mor bwysig yw hi i chi bod ateb yn agor ei dderbynfa’n barhaol?
3.Mae ateb yn cyfathrebu â’i gwsmeriaid mewn llawer o wahanol ffyrdd. Sut y byddech yn hoffi i ateb gyfathrebu â chi? (Gallwch ddewis cymaint o opsiynau ag y mynnwch)
4.I ba raddau yr ydych yn fodlon neu’n anfodlon bod eich landlord cymdeithasol yn rhoi cyfle i chi fynegi barn am y modd y mae gwasanaethau’n cael eu rheoli?
5.Unrhyw sylwadau pellach?
6.I wneud yn siŵr ein bod yn clywed gan ystod eang o’n cwsmeriaid, nodwch i ba gategori oedran yr ydych yn perthyn:
7.Yr aelod o staff a’ch helpodd gyda’r gyfres hon o gwestiynau:
8.Os hoffech gymryd rhan yn y gystadleuaeth a chael cyfle i ennill talebau ar-lein gwerth £100, nodwch eich enw, eich cyfeiriad ebost a’ch rhif ffôn yma: (Dim ond at ddibenion y gystadleuaeth y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon a/neu er mwyn ceisio datrys unrhyw broblemau sydd wedi’u dwyn i’n sylw drwy’r arolwg hwn, a bydd y wybodaeth yn cael ei dinistrio cyn pen 4 mis) Byddwn yn cysylltu â’r enillydd yn ystod wythnos 09/08/21.
CANLYNIADAU: Os hoffech weld canfyddiadau’r arolwg hwn, mae croeso i chi fynychu sesiwn ar-lein ein Grŵp Cynllunio Arolygon rhwng 10:00 ac 11:30 ar 9 Awst 2021. Mae croeso i chi gysylltu ag Ali Evans: 01437 774766 / 07500 446611 /engage@atebgroup.co.uk i gael dolen i'r grŵp hwn, neu i gael fersiwn arall o'r canlyniadau.

Bydd adroddiad llawn sy’n dangos canlyniadau’r arolwg hwn ar gael ar ein gwefan ym mis Medi, ar dudalen e2i.

MAE EICH BARN YN BWYSIG – DIOLCH AM SIARAD AG ATEB
Current Progress,
0 of 8 answered