Holiadur Monitro Cydraddoldeb

Diolch i chi am ystyried cymryd rhan yn ein holiadur cydraddoldeb. Byddem yn ddiolchgar pe baech yn ateb y cwestiynau isod, sy’n gwbl ddewisol. Os nad ydych yn gyfforddus yn ateb unrhyw gwestiwn penodol, ticiwch y blwch a nodir ‘Well gen i beidio â dweud’.

Mae’r cwestiynau isod yn cyfeirio at yr unigolyn a ddioddefodd y broblem. Os ydych chi wedi cwyno ar ran rhywun arall, byddem yn ddiolchgar pe baech yn fodlon eu helpu i gwblhau'r holiadur hwn.
Wrth i chi gychwyn cwblhau’r holiadur hwn, gofynnwn am gyfeirnod eich achos. Gwnawn hyn er mwyn dadansoddi'n well hygyrchedd ein gwasanaeth - er enghraifft, ar sail pwnc neu fath o gŵyn.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd eich ymateb yn cael eu gweld gan unrhyw aelod o staff sy’n gyfrifol am asesu neu ymchwilio i’ch cwyn. Dim ond y staff sy'n dadansoddi'r data bydd yn cael ei weld.

Gallwch ganfod y cyfeirnod hwn mewn gohebiaeth oddi wrthym am eich achos.
1.Beth yw cyfeirnod eich achos?(Gofynnol.)
2.Beth yw eich oedran?(Gofynnol.)
3.Sut fyddech chi yn disgrifio eich hunaniaeth genedlaethol?(Gofynnol.)
4.Pa derm sy'n disgrifio eich rhyw orau?(Gofynnol.)
Mae traws yn derm ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un fath, neu nad yw’n cyd-fynd yn gyfforddus â’r rhyw a roddwyd iddynt adeg eu geni.
5.A ydych chi yn ystyried eich hun yn draws?(Gofynnol.)
Nid yw categorïau tarddiad ethnig yn ymwneud â chenedligrwydd, man geni na dinasyddiaeth. Maent yn ymwneud â'r grŵp rydych chi fel unigolyn yn ystyried eich bod yn perthyn iddo.
6.Sut fyddech chi yn disgrifio eich ethnigrwydd?(Gofynnol.)
Gwyn
Asiaidd neu Asiaidd Cymreig / Prydeinig
Grwpiau ethnig cymysg neu luosog
Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd
Grŵp ethnig arall neu well gen beidio â dweud
Grŵp ethnig
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio unigolyn anabl yn ôl y model meddygol ac fel rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sydd ag effaith andwyol 'sylweddol' a 'thymor hir' ar eu gallu i berfformio gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd (fel bwyta, cerdded a mynd i siopa).

Mae 'sylweddol' yn golygu 'mwy na mân neu ddibwys', ac mae 'tymor hir' yn golygu bod effaith y nam wedi para neu yn debygol o bara am o leiaf deuddeg mis.  Mae'r diffiniad hwnnw hefyd yn cynnwys pobl sydd wedi cael diagnosis o HIV, canser neu sglerosis ymledol.
7.A ydych chi yn diffinio eich hun fel anabl?(Gofynnol.)
8.A yw eich gweithgareddau dyddiol yn gyfyngedig oherwydd problem iechyd neu anabledd sydd wedi para, neu y mae disgwyl iddynt bara, am o leiaf 12 mis?(Gofynnol.)
9.Os ydy, nodwch pa un o'r canlynol a allai fod yn berthnasol i chi:
10.Beth yw eich crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred)?(Gofynnol.)
11.Beth yw eich prif iaith?(Gofynnol.)
12.A allwch chi ddeall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg? Dewiswch bob ymateb sy'n berthnasol i chi.(Gofynnol.)
13.A ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil?(Gofynnol.)
14.Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio eich cyfeiriadedd rhywiol orau?(Gofynnol.)
15.Wrth i ni weithio, rydym am sicrhau ein bod yn helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Gall rai pobl fod yn agored i niwed oherwydd eu hiechyd, eu hincwm, eu cyflwr tai neu ffactorau eraill. Gofynnwn y cwestiynau isod i'n helpu i ddeall sut y gall y ffactorau gwahanol hyn ddylanwadu ar bwy sy'n defnyddio ein gwasanaeth.(Gofynnol.)
Cynnydd Presennol,
0 o 15 wedi eu hateb